Hen Wlad fy Nhadau


Mae hen wlad fy nhadau yn anwyl i mi
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri
Ei gwrol rhyfelwyr, gwlad garwyr tra mad
Tros ryddid collasant eu gwaed.

Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad
Tra mor yn fur
I'r bur hoff bau
O bydded i'r heniaith barhau.

Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd
Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd
Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si
Ei nentydd, afonydd, i mi.

Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad
Tra mor yn fur
I'r bur hoff bau
O bydded i'r heniaith barhau.

Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed
Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad
Na thelyn berseiniol fy ngwlad.

Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad
Tra mor yn fur
I'r bur hoff bau
O bydded i'r heniaith barhau.

Land Of My Fathers


The land of my fathers is dear unto me
The land of the poets, the land of the free
Her patriots and heroes, her warriors so brave
For freedom their life's blood they gave.

Wales! Wales! Pledged am I to Wales
Whilst seas surround
This land so proud
Oh, long may our old tongue remain.



















TOP OF PAGE

BACK

MAIN PAGE